mynydd seion casnewydd
  • Hafan
  • Oedfaon
  • Y Ddolen a newyddion
  • Yr achos heddiw
  • Hanes Diweddar
  • Dathlu 175m
    • Rhagor o luniau
    • Eto llawer mwy o luniau (Maher)
  • Adroddiad Blynyddol
  • O'r Gorffennol
    • Suliau 2012
  • Cysylltu
  • Dolenni
  • Er mwyn ein plant

Picture
  Capel Cymraeg yw Mynydd Seion yng nghanol dinas Casnewydd. Mae'r capel yn Hill Street, un o'r rhiwiau serth sy'n arwain o Commercial Street i gyfeiriad Stow Hill a'r Eglwys Gadeiriol.

Sefydlwyd yr achos yn 1835 a bu'r capel yn gartref ysbrydol i gannoedd o deuluoedd dros y blynyddoedd.

Er yn perthyn i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg y mae pobl o wahanol draddodiadau enwadol wedi ymgartrefu ym Mynydd Seion dros y blynyddoedd.

Y mae dau beth yn ein clymu ni at ein gilydd: ein ffydd Gristnogol a'n hawydd i addoli Duw drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Oherwydd prinder achosion Cymraeg yn y De Ddwyrain erbyn hyn, mae dalgylch y capel yn eang iawn, ac mae mwyafrif yr aelodau yn gorfod teithio rhai milltiroedd i ddod i'r capel.

Ar y Sul cynhelir oedfa am 10.30 o'r gloch ac Ysgol Sul i'r plant.

Ar fore Mercher cyntaf y mis (yn arferol) cynhelir Clwb y Gegin sy'n gyfle i aelodau a chyfeillion alw heibio am baned a sgwrs a hyd yn oed ginio. Cynhelir oedfa fer yn ystod y cyfarfod.

Byddwn yn cynnal gweithgareddau cymdeithasol yn achlysurol.

O bryd i'w gilydd bydd Cymdeithas Cymry Casnewydd yn cynnal cyfarfodydd yn y capel.

Felly hefyd cangen leol Merched y Wawr.

Daw disgyblion Ysgol Gymraeg Casnewydd i gynnal gwasanaethau yn y capel ar adegau arbennig o'r flwyddyn.

Er nad ydym yn eglwys niferus yr ydym yn gwmni cyfeillgar a chlos, sy'n cyd-ymdrechu i gynnal y dystiolaeth Gristnogol Gymraeg.

Dewch i weld dros eich hunan ac fe gewch groeso.



Picture
Picture
Powered by Create your own unique website with customizable templates.