Dydd Sul nesaf, 29ain Ionawr am 10.30 o'r gloch byddwn yn addolu yn Mynydd Seion. Bydd yr oedfa yng ngofal Elin Maher. Bydd yna Ysgol Sul yn ystod yr oedfa. Fe gewch groeso mawr a phaned wedi'r oedfa.
Eglwys Annibynnol Mynydd Seion,
Hill Street, Casnewydd
Hill Street, Casnewydd
Pwy Ydyn ni?
Capel Cymraeg yw Mynydd Seion yng nghanol dinas Casnewydd. Mae'r capel yn Hill Street, un o'r rhiwiau serth sy'n arwain o Commercial Street i gyfeiriad Stow Hill a'r Eglwys Gadeiriol.
Sefydlwyd yr achos yn 1835 a bu'r capel yn gartref ysbrydol i gannoedd o deuluoedd dros y blynyddoedd.
Er yn perthyn i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg y mae pobl o wahanol draddodiadau enwadol wedi ymgartrefu ym Mynydd Seion dros y blynyddoedd.
Y mae dau beth yn ein clymu ni at ein gilydd: ein ffydd Gristnogol a'n hawydd i addoli Duw drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Ewch ar wefan newydd yr Anibynwyr a gweld sut mae capeli / eglwysi eraill yn cynnal a threfnu gwasanaethau.......cliciwch yn y ddolen isod