mynydd seion casnewydd
  • Hafan
  • Oedfaon
  • Y Ddolen a newyddion
  • Yr achos heddiw
  • Hanes Diweddar
  • Dathlu 175m
    • Rhagor o luniau
    • Eto llawer mwy o luniau (Maher)
  • Adroddiad Blynyddol
  • O'r Gorffennol
    • Suliau 2012
  • Cysylltu
  • Dolenni
  • Er mwyn ein plant

Dweud diolch i Allan, Avril, Aled a Geraint

Picture
Ar Ddydd Sul y 13eg o Fis Mawrth 2011 daeth mwyafrif o aelodau Mynydd Seion a ffrindiau ynghyd i ddweud diolch am weinidogaeth y Parch Allan Pickard a'r teulu. Bu Allan yn weinidog arnom am 15eg mlynedd gyda Avril yn organydd talentog iawn. Cafwyd gwasanaeth arbennig  ac ar ôl cymryd y cymun, cafwyd cyfle i roi gair o ddiolch i Allan Avril Aled a Geraint. Bu Siân Howley yn arwain, ac yn rhoi ein diolchiadau fel aelodau Eglwys Mynydd Seion. I ddangos ein gwerthfawrogiad cyflwynwyd i'r teulu blât arbennig (gweler lluniau isod) oedd wedi ei greu gan Grochendy Rumney Caerdydd. Hefyd rhoddwyd anrheg o benwythnos arbennig iawn i Allan ac Avril yng ngwesty y Falcon, Llanbedr Pont Steffan gyda siec urddasol iddynt wario fel maent yn dymuno.
Unwaith eto Diolch o galon ar ran yr Eglwys am ein harwain dros y 15fed mlynedd diwethaf


Picture
Picture

Nod Cenhadol
Cynnal a hyrwyddo'r dystiolaeth Gristnogol Gymraeg yng Nghasnewydd a'r cyffiniau.

Picture
  
Ceisiwn wneud hyn trwy gyfrwng oedfaon wythnosol addoliad deallus a pherthnasol Ysgol Sul rheolaidd i'r plant a'r bobl ifanc bod yn gynnes ein croeso i ymwelwyr gweithgareddau cymdeithasol i ddwyn pobl ynghyd rhoi'r adeilad at wasanaeth mudiadau, cymdeithasau ac ysgolion Cymraeg y cylch Hanes Diweddar y Capel

O'r tu allan, mae'r capel yn blaen ac yn nodweddiadol o gapeli Anghydffurfiol trwy Gymru. Tu fewn, mae'r capel yn atyniadol iawn.

Mae'n werth nodi bod llawer o aelodau'r capel wedi bod yn flaenllaw yn yr ymgyrch i sefydlu ysgolion Cymraeg - yn wirfoddol yn y lle cyntaf ac yn fwy diweddar, ysgolion meithrin, cynradd a chyfun. Gallwn ni ddweud bod Mynydd Seion wedi bod yn ynys o Gymreictod yn ne Gwent.

Rydym yn eglwys o tua 50 o aelodau ac mae yma gymdeithas glos a chyfeillgar. Mae'n nodwedd arbennig o'r Suliau bod y gynulleidfa yn aros yn y capel ar ôl y gwasanaeth i gymdeithasu.

Mae'r capel wedi bod yn ffodus iawn gyda'n gweinidogion diweddar. Roedd y Parchedig Huw Ethall yn weinidog rhan amser am ryw bum mlynedd ac yr oedd yn boblogaidd iawn
yn enwedig gyda'n plant. Ar ôl Huw, roedd y Parchedig Shem Morgan yn weinidog rhan amser ac yr oedd ef yn llwyddiannus iawn er mai'r hen gapel hanesyddol Llanfaches oedd ei brif gyfrifoldeb. Rhwng 1996 a 2010 y Parchedig Allan Pickard oedd yn fugail i ni.
                                                                                                                            
Cynhelir Ysgol Sul bob Sul ar gyfer y plant, ac maent yn cyfrannu i'r oedfaon gyda'u hadnodau a'u hymateb i stori'r pregethwr ar y Sul. 
 

Mae'r capel yn cyhoeddi cylchlythyr pob mis, Y Ddolen - sydd yn help mawr i rannu gwybodaeth am beth sydd yn mynd ymlaen, pwy sy'n dost, a.y.b. a hefyd i gadw mewn cyswllt â ffrindiau, ac yn enwedig gyda chyn aelodau sydd wedi gadael yr ardal. Mae'r wefan hon hefyd yn rhoi cyfle i gylch ehangach wybod amdanom.

Gwneir defnydd helaeth o'r gegin newydd a agorwyd yn Hydref 2002, ac ym mis Medi 2007 adnewyddwyd y sustem gwres canolog. 
            

Mae digon o bobl wedi rhagweld dirywiad Mynydd Seion yn y gorffennol ond mae'r defodau angladdol yn gynamserol! Mae digon o fywyd yn yr hen achos yma ac fel mater o ffaith, mae digon o obaith am ddyfodol y capel ymysg yr aelodaeth. 

Mae ysbryd newydd a bendith newydd ym Mynydd Seion heddiw.





Powered by Create your own unique website with customizable templates.