Gwasanaeth Sul nesaf am 10.30
dan ofal Elin Maher |
Dros y cyfnod cofid, os ydych yn bwriadu ymweld â ni ym Mynydd Seion ar gyfer ein gwasanaethau ar y safle, a fyddai modd i chi rhoi gwybod o flaen llaw i Elin neu Siân fel bod modd i ni drosglwyddo gwybodaeth pwysig i chi am drefniadau mynediad a diogelwch diweddaraf y capel. Diolch.
|
Pwy Ydyn ni?

Capel Cymraeg yw Mynydd Seion yng nghanol dinas Casnewydd. Mae'r capel yn Hill Street, un o'r rhiwiau serth sy'n arwain o Commercial Street i gyfeiriad Stow Hill a'r Eglwys Gadeiriol.
Sefydlwyd yr achos yn 1835 a bu'r capel yn gartref ysbrydol i gannoedd o deuluoedd dros y blynyddoedd.
Er yn perthyn i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg y mae pobl o wahanol draddodiadau enwadol wedi ymgartrefu ym Mynydd Seion dros y blynyddoedd.
Y mae dau beth yn ein clymu ni at ein gilydd: ein ffydd Gristnogol a'n hawydd i addoli Duw drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Ewch ar wefan newydd yr Anibynwyr a gweld sut mae capeli / eglwysi eraill yn cynnal a threfnu gwasanaethau.......cliciwch yn y ddolen isod